Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (Student Loans Company Limited)

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ran Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y DU. Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf posibl, waeth pa dechnoleg y mae’r gynulleidfa honno’n ei defnyddio na beth yw gallu’r gynulleidfa. Rydym yn gweithio’n ddiwyd i wneud ein gwefan yn fwy hygyrch ac yn haws i’w defnyddio, ac wrth wneud hynny rydym yn glynu wrth lawer o’r safonau a’r canllawiau sydd ar gael. Rydym am i gynifer o bobl ag sy’n bosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylai fod modd, er enghraifft, i chi:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo maint y testun i 300% heb fod y testun yn mynd o’r golwg ar y sgrîn
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd i’w ddeall ag sy’n bosibl.

Mae gan AbilityNet (yn agor mewn tab newydd) gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Beth y dylech ei wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon


Os oes arnoch angen unrhyw rai o’n llythyrau, ein ffurflenni neu’n canllawiau mewn Braille neu brint bras, anfonwch e-bost i brailleandlargefonts@slc.co.uk gan nodi:

  • eich cyfeiriad
  • eich Cyfeirnod Cwsmer
  • beth y mae arnoch ei angen mewn Braille neu brint bras
  • ar gyfer print bras, pa faint ffont a pha fath o ffont y mae arnoch eu hangen.

Os na allwch gyrchu unrhyw rannau eraill o’n gwefan, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni yn accessibility@slc.co.uk.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu clywed neu siarad ar y ffôn.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd ar gyfer y sawl sy’n cael anhawster clywed ac sy’n ymweld â’n swyddfeydd yn bersonol. Neu, os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu bod dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain ar gael.

Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â ni trwy fynd i:
www.gov.uk/government/organisations/student-loans-company (yn agor mewn tab newydd).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau’n hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (“y Rheoliadau Hygyrchedd”).

Rydym yn ymdrechu i gydymffurfio’n llawn â safonau AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (“Canllawiau Hygyrchedd 2.1”). Rydym yn cydnabod mai cydymffurfio’n rhannol yn unig â’r safonau hynny y mae’r wefan hon ar hyn o bryd. Rydym wedi darparu manylion isod ynghylch y meysydd nad ydynt yn cydymffurfio â’r safonau ar hyn o bryd, a manylion ynghylch pryd yr ydym yn disgwyl y bydd y meysydd hynny’n cydymffurfio â nhw.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Meysydd nad ydynt yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Hygyrchedd

Wijets a labeli

Nid oes gan rai wijets labeli disgrifiadol a/neu gyfarwyddiadau sy’n nodi’r mewnbwn a ddisgwylir. Mae hynny’n golygu nad yw’n glir beth a ddisgwylir gan y defnyddiwr nac i ble y bydd y wijet yn mynd â’r defnyddiwr, yn enwedig wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol megis darllenwyr sgrîn. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 1.3.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (gwybodaeth a chydberthnasau), maen prawf llwyddiant rhif 3.2.2 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (ynghylch mewnbwn) a maen prawf llwyddiant rhif 3.2.3 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (llywio cyson).

Rydym yn bwriadu ychwanegu labeli disgrifiadol at bob wijet a hyperddolen erbyn mis Medi 2020. Yn y cyfamser, pan gaiff cynnwys newydd ei gyhoeddi, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o wijets a thestun hyperddolenni’n bodloni safonau hygyrchedd AA.

At hynny, nid yw rhai wijets wedi’u marcio yn glir fel rhai sy’n weithredol, rhai sydd wedi’u hanalluogi neu rai ‘darllen yn unig’, felly nid yw’n glir a oes modd i ddefnyddwyr ryngweithio â nhw. Nid yw rhai negeseuon ynghylch gwallau’n ddisgrifiadol chwaith, ac nid ydynt yn rhoi enghreifftiau o’r hyn a ddisgwylir pan gaiff gwallau o ran mewnbwn eu nodi.

Er mwyn sicrhau bod y sawl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol yn ymwybodol o gyflwr gwallau ar ffurflenni, mae’n rhaid i negeseuon ynghylch gwallau fod yn ddisgrifiadol ac mae’n rhaid i awgrymiadau ynghylch meysydd sy’n ofynnol/nad ydynt yn ofynnol gael eu darparu’n rhan o’r rhaglen yn hytrach nag yn weledol. Nid yw’r elfen hon yn bodloni maen prawf llwyddiant rhif 4.1.2 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (enw, rôl, gwerth), 3.3.1 (nodi gwall) a 3.3.1 (rhaid i wallau gael eu nodi a rhaid iddynt fod ar gael ar ffurf testun a bod yn ddisgrifiadol). Rydym yn bwriadu defnyddio HTML i roi gwybod i ddefnyddwyr pan fydd gwallau o ran mewnbwn wedi’u nodi, ac rydym yn bwriadu darparu gwybodaeth fwy disgrifiadol am gyflwr gwallau a defnyddio nodweddion awto-gwblhau, erbyn mis Medi 2020.

Delweddau a chynnwys nad yw’n destun

Nid oes gan rai delweddau destun y gellir ei ddefnyddio yn eu lle, felly nid yw’r wybodaeth sydd ynddynt ar gael i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrîn. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 1.1.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (cynnwys nad yw’n destun).

Rydym yn bwriadu ychwanegu testun y gellir ei ddefnyddio yn lle delweddau ar gyfer pob delwedd erbyn mis Medi 2020. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau’n bodloni safonau hygyrchedd AA.

HTML

Dim ond yn weledol y caiff nodweddion amlygu gwybodaeth eu rhoi ar waelod rhai tudalennau, sy’n golygu eu bod o’r golwg i ddarllenwyr sgrîn ac nad ydynt felly’n cael eu cyhoeddi na’u cyfleu i’r defnyddiwr. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 1.3.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (gwybodaeth a chydberthnasau).

Rydym yn bwriadu ychwanegu tagiau HTML perthnasol ac osgoi defnyddio nodweddion cudd, er mwyn datrys y broblem hon erbyn mis Medi 2020. Pan gaiff cynnwys newydd ei gyhoeddi, byddwn yn sicrhau bod ein HTML yn bodloni safonau hygyrchedd AA.

Mewn rhai achosion lle caiff y Gymraeg ei dewis, bydd y testun ar y sgrîn yn newid i Gymraeg ond bydd darllenydd sgrîn yn ei gyfleu i’r defnyddiwr yn Saesneg. Mae hynny’n digwydd am nad yw tag HTML y dudalen yn cynnwys y nodwedd gywir o ran iaith. At hynny, nid yw’r dolenni cyswllt sy’n newid yr iaith i Gymraeg ac yn newid yr iaith yn ôl i Saesneg yn cynnwys y nodwedd gywir o ran iaith, sy’n golygu na chaiff ei darllen yn gywir gan ddarllenydd sgrîn.

Mae’r ddwy broblem hyn yn golygu nad yw’r wefan yn bodloni maen prawf llwyddiant rhif 3.1.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (iaith tudalen) a 3.1.2 (iaith rhannau). Rydym yn bwriadu rhoi’r nodweddion cywir o ran iaith HTML yn eu lle erbyn mis Medi 2020.

Rydym yn cydnabod hefyd bod penynnau’n cael eu defnyddio’n anghywir weithiau ar y wefan hon. Swyddogaeth pennyn yw labelu adran o gynnwys, ond caiff penynnau eu defnyddio’n aml fel ffordd o steilio cynnwys. Mae hynny’n golygu nad yw’r cynnwys yn llifo’n llyfn pan ddefnyddir darllenydd sgrîn i’w gyrchu, ac nad yw’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 2.4.6 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (penynnau a labeli), 1.3.1 (gwybodaeth a chydberthnasau) a 4.1.3 (negeseuon ynghylch statws). Rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r problemau hyn erbyn mis Medi 2020, fel bod penynnau’n cael eu defnyddio i labelu adran o gynnwys yn unig. Bydd unrhyw gynnwys sy’n cael ei gyhoeddi rhwng nawr a mis Medi 2020 hefyd yn cael ei greu yn y modd hwn.

Yn olaf, nid yw’r wefan bob amser yn awto-gwblhau nodweddion, sy’n golygu na all darllenwyr sgrîn ddarparu digon o wybodaeth i’r defnyddiwr ynghylch y gofynion ar gyfer ymwneud â meysydd ffurflenni. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 1.3.5 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (caniatáu i ddefnyddwyr awto-lenwi gwybodaeth bersonol). Byddwn yn cynnwys y defnydd o nodweddion awto-gwblhau cywir ym mhob ffurflen erbyn mis Medi 2020.

Llywio a chyrchu gwybodaeth

Nid ydym bob amser yn darparu ffyrdd o helpu defnyddwyr i lywio, dod o hyd i gynnwys a gweld ble yn union y maent ar y wefan hon. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 2.4.3 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (trefn ffocws). Byddwn yn darparu arwyddnodau llywio a dolenni cyswllt disgrifiadol i helpu defnyddwyr i lywio’r wefan, erbyn mis Medi 2020.

Rydym yn cydnabod hefyd nad yw’r wefan hon yn caniatáu i destun gael ei chwyddo i 400% heb golli cynnwys neu golli’r gallu i weithio’n iawn heb dechnoleg gynorthwyol. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 1.4.10 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (rhaid bod modd newid maint tudalennau heb golli cynnwys) ac 1.4.4 (newid maint testun). Byddwn yn sicrhau bod modd newid maint yr holl destun i 400% erbyn mis Medi 2020.

Dogfennau PDF

Rydym yn ymwybodol nad oes modd golygu rhai dogfennau PDF yn llawn, a bod y drefn ddarllen wrth ddefnyddio darllenydd sgrîn i’w cyrchu yn wahanol i’r drefn ddarllen weledol. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 2.4.7 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (mae gofyn i ddefnyddwyr lawrlwytho a llenwi dogfen PDF). Byddwn yn darparu dogfennau PDF y gellir eu golygu’n llawn gyda threfn ddarllen gyson, neu ffurflenni HTML digidol i ddisodli pob dogfen PDF, erbyn mis Medi 2020.

Cynnwys nad yw’r Rheoliadau Hygyrchedd yn berthnasol iddo

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r Rheoliadau Hygyrchedd (yn agor mewn tab newydd)yn mynnu ein bod yn unioni dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau.

Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a’n dogfennau Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd AA – er enghraifft, mae’n bosibl nad yw eu strwythur yn ei gwneud yn bosibl i rywun ddefnyddio darllenydd sgrîn. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 4.1.2 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (enw, rôl, gwerth).

Mae rhai o’n dogfennau PDF a’n dogfennau Word yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddwyd ar ffurf dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu unioni’r rhain neu’u disodli â thudalennau HTML hygyrch.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word y byddwn yn eu cyhoeddi o fis Medi 2019 ymlaen yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon

Cafodd y prawf diwethaf ar y wefan hon ei gynnal ym mis Awst 2019. Cafodd y prawf ei gynnal gan User Vision. Rhoddwyd prawf ar y canlynol ein meysydd rheoli cyfrifon cwsmeriaid, sydd ar gael trwy ddilyn y dolenni cyswllt canlynol:

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 10 Medi 2019 a’i gyhoeddi ar 23 Medi 2019

Adrodd ynghylch problemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wneud y wefan hon yn fwy hygyrch. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â: accessibility@slc.co.uk .

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd. Os byddwch yn anfodlon â’r modd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (“EASS”) (yn agor mewn tab newydd) i gael cyngor a chymorth.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac os byddwch yn anfodlon â’r modd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldebau Gogledd Iwerddon yn hytrach na’r EASS a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.